Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

E&S(4)-04-12 papur 3

 

Ymchwiliad i’r achos busnes ar gyfer yr un corff amgylcheddol – Tystiolaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

 

Ionawr 2012

 

1. Ein safbwynt

Ers ei sefydlu ym 1996, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gweithredu’n llwyddiannus fel corff annibynnol ledled Cymru a Lloegr.   Ar ôl datganoli ym 1999, rydym wedi ymrwymo i wireddu blaenoriaethau amgylcheddol Llywodraeth Cymru ac wedi llwyddo i helpu i amddiffyn a gwella amgylchedd Cymru.  Mae hyn yn amlwg o:

 

·         Ansawdd dŵr yn gwella yn y tymor hir.   Yn 2011, roedd 87 allan o’r 88 traethau dynodedig ledled Cymru yn cydymffurfio â'r safonau Dŵr Ymdrochi mandadol.  Yn 2010, llwyddodd 98.3% o afonydd i gael Da neu Gweddol o dan Asesiad Ansawdd Cyffredinol (cynllun cemegol);

·          Llwyddo i reoli mwy na 1,800 milltir o amddiffynfeydd llifogydd ledled Cymru ac o ganlyniad i gynlluniau amddiffyn llifogydd a gafodd eu cwblhau rhwng Ebrill 2005 a 2011, mwy na 4,500 o eiddo’n ychwanegol yn manteisio o lai o beryglon llifogydd.

·          Ansawdd aer gwell drwy ein rheoliadau o allyriadau diwydiannol.   Er enghraifft, bu gostyngiad o 88% yn allyriadau sylffwr deuocsid yng Nghymru rhwng 1990 a 2010.  

 

Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diweddar, rydyn ni wedi gweld gwahaniaethau cynyddol rhwng yr hyn sy’n cael ei ofyn o Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr ac yng Nghymru ac mae gwahaniaethau polisi’n cynyddu.   Er enghraifft, yn Lloegr, mae yna bwyslais cynyddol ar gael gwared ar reoliadau i ysgafnhau'r baich ar fusnesau a diwydiant.  Yng Nghymru, mae yna fwy o bwyslais ar weithio gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i wella canlyniadau amgylcheddol.   Fe ddylen ni newid i adlewyrchu’r gwahaniaethau hyn.   Bydd un corff amgylcheddol sengl yng Nghymru’n sicrhau fod y canolbwynt yn gyfan gwbl ar flaenoriaethau Cymru ac fe fydden ni’n disgwyl i’r corff newydd ddarparu:

 

 

·         Cynyddu effeithlonrwydd drwy leihau gorbenion corfforaethol a chynhyrchu arbedion drwy reoli ar y cyd ystadau, caffael ac offer.   Bydd hyn yn rhyddhau arian i’w ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen.  

 

Rydyn ni o’r farn fod yr achos busnes ar gyfer y corff amgylcheddol sengl yn dangos y bydd buddion hyn yn fwy na’r costau.  Rydyn ni’n cydnabod y cafodd y costau a'r buddion eu hasesu'n geidwadol a bod yr achos busnes wedi'i archwilio'n allanol, a bod hynny'n cadarnhau ei fod wedi’i baratoi’n unol â chanllawiau'r Trysorlys.  Ymhellach, byddai gwahanu Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru oddi wrth y corff rhiant yn rhyddhau £20 miliwn yn ychwanegol i’w fuddsoddi yng Nghymru, gan sicrhau y bydd gan y corff newydd y galluoedd a’r gwasanaethau priodol ar gyfer rheoli'r amgylchedd yng Nghymru.

 

Rydyn ni'n cefnogi egwyddorion y Fframwaith Amgylchedd Naturiol a bydd y corff amgylcheddol sengl newydd yn un o’r prif sefydliadau a fydd yn gyfrifol am ei wireddu.   Er y gwnaed cynnydd da ar y Fframwaith Amgylchedd Naturiol, rydyn ni’n annog rhagor o waith i drosi'r cysyniadau damcaniaethol yn ddulliau ymarferol.  Dyna pam ein bod yn croesawu’r cynlluniau peilot arfaethedig.  Bydd defnyddio cysyniadau’r Fframwaith Amgylchedd Naturiol ar gyfer problemau lleol penodol yn ein helpu i ddeall y ffyrdd newydd o weithio.  

 

2 Gweledigaeth a swyddogaeth y corff newydd

Mae ein gweledigaeth ar gyfer y corff newydd yn seiliedig ar y gred mai conglfaen popeth y byddwn yn ei wneud yw datblygu cynaliadwy.  Bydd creu sefydliad amgylcheddol newydd yng Nghymru yn gyfle unigryw i ddarparu ymhellach ar gyfer pobl ac economi Cymru yn ogystal â'r amgylchedd.Felly, mae’n rhaid i hyn fod yn fwy na dim ond dod â thri sefydliad presennol ynghyd.   Bydd yn rhaid i’r sefydliad newydd gael gweledigaeth glir o’i swyddogaeth ac o’i gylch gwaith a bydd yn rhaid i bob rhan o'r gymuned allu deall y weledigaeth hon yn hawdd.   Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn meddwl fod llawer o bobl yn deall yn iawn pa welliannau y gallai'r corff sengl eu darparu.  

 

 Mae'r Fframwaith Amgylchedd Naturiol yn annog agwedd newydd at reoli ein hamgylchedd er mwyn sicrhau fod ecosystemau’n cael eu gwarchod ac yn cael eu rheoli yn eu cyfanrwydd.  Mae hyn yn sicrhau y gellir llwyddo i gael yr amrywiaeth lawn o fuddion neu wasanaethau ecosystemau a thrwy hynny gyfrannu at ffyniant economaidd a chymdeithasol.  Bydd yn rhaid i’r corff newydd sicrhau gwelliannau amgylcheddol a fydd o fantais i gymunedau lleol yn ogystal ag i'r economi.   Byddai safbwynt ehangach o’r fath yn golygu "ennill-ennill-ennill" i amgylchedd, pobl ac economi Cymru.

 

Rydyn ni o’r farn fod yna chwe her allweddol yn wynebu’r sefydliad newydd:

 

·         Rheoli defnydd tir yn gynaliadwy;

·          Arweinyddiaeth strategol i ddatrys problemau amgylcheddol cymhleth;

·          Hyrwyddo twf a datblygiad economaidd;

·         Buddsoddi gwyrdd a swyddi gwyrdd;

·         Gwella rheoleiddio;

·         Newid hinsawdd.

 

2.1 Rheoli defnydd tir yn gynaliadwy

 Efallai mai sicrhau fod tir a dŵr yn cael ei reolin gyfun ac yn gynaliadwy ywr her amgylcheddol fwyaf tyngedfennol i Gymru.   Yn ogystal â gwneud synnwyr yn economaidd, mae defnyddio a rheoli tir yn effeithio’n arw ar fioamrywiaeth yn ogystal ag yn cyfrannu’n sylweddol at lygredd gwasgaredig yn afonydd a nentydd Cymru.   Ar hyn o bryd, mae gan bob un o’r tri sefydliad gyfrifoldebau allweddol o ran rheoli tir, rhoi cyngor ac arweiniad i reolwyr tir a hefyd reoleiddio rhai gweithgareddau.   Rydyn ni o'r farn bod yna gyfle i lyfnhau'r gwasanaethau hyn, drwy weithio gyda'r trydydd sector, i gael gwasanaeth mwy cyfun ac effeithiol.  Bydd hyn yn helpu i gyfarfod â’r anghenion a ddiffinnir yn y Cyfarwyddebau Fframwaith Dŵr, Cynefinoedd ac Adar, Dyfroedd Ymdrochi a Dyfroedd Pysgod Cregyn.  Bydd yna fanteision hefyd o ran rheoli peryglon llifogydd a chadw carbon.  

 

2.2 Arweinyddiaeth strategol i ddatrys problemau amgylcheddol cymhleth,  Mae ein profiad o ddelio â phroblemau amgylcheddol cymhleth mewn mannau megis Cilfach Tywyn a Chastell-nedd Port Talbot wedi dangos mor anodd a chymaint o amser sy’n cael ei lyncu wrth ddatblygu atebion cyfun, cost effeithiol i broblemau o’r fath.  Ar hyn o bryd, mae deddfwriaeth yn annog sefydliadau i ganolbwyntio ar eu swyddogaeth a'u cyfrifoldebau penodol.   Does yna ddim cymhelliad i unrhyw un sefydliad gymryd swyddogaeth arweiniol strategol i gydlynu pawb sydd â rhan, i chwilio am ddealltwriaeth gyffredin o'r problemau a sut y gellir eu datrys.   Mae sefydlu corff amgylcheddol sengl yn gyfle i wneud iawn am y diffyg hwn drwy gynnwys yn ei gylch gwaith y cyfrifoldeb o gydlynu swyddogaethau drwy ddod â sectorau cyhoeddus a phreifat ac o'r trydydd sector at ei gilydd i ddatrys problemau amgylcheddol cymhleth.  Bydd hyn yn sicrhau y bydd pawb yn gweithio gyda'i gilydd yn y ffordd fwyaf effeithiol i ddatrys problemau penodol ac i fod o fantais ehangach i'r economi a chymunedau lleol.  

 

 Ar hyn o bryd, does yna'r un corff sengl yng Nghymru yn ystyried cynllunio amgylcheddol tymor hir ar gyfer pob agwedd o'r amgylchedd yng Nghymru.  Rydyn ni o’r farn y bydd gan y corff newydd ran i’w chwarae mewn darparu tystiolaeth gadarn o’r pwysau amgylcheddol presennol, am ragweld y pwysau yn y dyfodol yng Nghymru a’r ystod o waith y gellid ei wneud i’w rheoli.  Bydd cael tystiolaeth gadarn, asesu canlyniadau amgylcheddol penderfyniadau a'r problemau amgylcheddol sy'n codi yn galluogi Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gymryd gwell penderfyniadau.

 

2.3 Hyrwyddo twf a datblygiad economaidd  

Bydd datblygu economaidd a'r newid yn y ffordd y mae pobl yn bwy yn rhoi rhagor o bwysau ar ecosystemau.  Rydyn ni'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru yn y rhaglen adnewyddu economaidd, Cyfeiriad Newydd 2010, i baratoi cynllun seilwaith statudol ar gyfer Cymru.  Rydyn ni o’r farn bod angen rhoi llawer mwy o bwyslais ar gael y datblygiadau mwyaf addas yn y lle iawn, nid er budd yr amgylchedd yn unig, ond o ran yr economi a’r bobl hefyd.   Byddai hyn yn sicrhau y byddai datblygiadau newydd yn gallu gwrthsefyll heriau megis newid hinsawdd, demograffeg gyfnewidiol a phrinder adnoddau.   Byddai hefyd yn ei gwneud yn haws i fusnes a diwydiant, drwy leihau costau ac amser cael caniatâd amgylcheddol a thrwy gyfeirio datblygiadau i fannau lle mae'r amgylchedd yn llai sensitif.  Bydd gan y corff amgylcheddol newydd ran fawr i’w chwarae mewn darparu gwybodaeth, data a thystiolaeth amgylcheddol i ddeall gallu naturiol yr amgylchedd ac i sicrhau y bydd hynny'n cael ei gynnwys wrth ddatblygu cynlluniau seilwaith.   Rydyn ni o'r farn y bydd yn rhaid i'r sefydliad newydd sefydlu cysylltiadau cryf gydag awdurdodau lleol, drwy ddarparu gwell tystiolaeth ar gyfer eu penderfyniadau.  Bydd hyn o help i awdurdodau lleol ac i’r corff newydd gael canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd positif.

 

2.4 Buddsoddi gwyrdd a swyddi gwyrdd

 Mae ansawdd amgylchedd Cymru eisoes yn chwarae rhan bwysig mewn cynnal diwydiant twristiaeth bywiog yng Nghymru.  Yn 2007, roedd yr astudiaeth ‘Economi Bywyd Gwyllt Cymru’ yn amcangyfrif bod gweithgareddau bywyd gwyllt Cymru yn cyfrannu tua £1.936 miliwn y flwyddyn ac yn cynnal mwy na 30,000 o swyddi.   Bydd yn rhaid i’r corff amgylcheddol newydd adeiladu ar hyn a hyrwyddo creu swyddi, nid yn unig mewn twristiaeth a choedwigaeth ond hefyd yn y diwydiannau gwyrdd sy’n ymddangos, megis ynni adenwyddol.   Mae posibilrwydd y diwydiannau newydd hyn yn cael ei ddangos mewn astudiaeth gan Brifysgol Leeds sy’n dangos y gallai buddsoddi mewn mentrau arbed ynni syml greu tua mil o swyddi'r flwyddyn yn rhanbarth dinas Leeds.

 

2.5 Gwella rheoleiddio

 Mae hyn yn gyfle gwych i lyfnhau caniatáu amgylcheddol.   Bydd cael un sefydliad ynddo’i hunan yn symleiddio’r broses i’n cwsmeriaid ar unwaith, bydd yn siop un stop ar gyfer pob trwydded, cyngor ac arweiniad ar faterion amgylcheddol.  Gallai hyn ei gwneud yn rhatach ac yn gynt i’n cwsmeriaid gael eu trwyddedau   

 

 O ran gweithgareddau cymhleth a pheryglus, mae’n gyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill i lyfnhau'r broses o ystyried trwyddedau amgylcheddol a cheisiadau cynllunio drwy ystyried y ddau fater ar wahân ond yr un pryd.   Byddai hyn o fantais i fusnes ac i ddiwydiant, drwy roi cyngor ac arweiniad cyson a phrydlon a byddai’n lleihau’r baich rheolaethol.  Byddai’r newid hwn hefyd yn galluogi cymunedau lleol i gael gwell gwybodaeth ynghylch yr effeithiau y gallai datblygiadau penodol eu cael ar eu cymuned ac ar yr amgylchedd.

 

2.6 Newid hinsawdd.

Bydd addasu i ganlyniadau anorfod newid hinsawdd drwy'r ganrif nesaf yn gofyn am ffyrdd gwreiddiol ac arloesol o gynllunio a rheoli.  Mae’r her yn un fawr iawn.  Er enghraifft, yn 2009 / 10, buddsoddodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac awdurdodau lleol Cymru £44 miliwn mewn adeiladu a chynnal amddiffynfeydd llifogydd.   O gymryd y rhagamcanion canol o ragamcanion mwyaf diweddar newid hinsawdd y DU, bydd gofyn i’r ffigwr hwn dreblu erbyn 2035 i gynnal yr un lefel o amddiffyniad.  Ac, yn wahanol iawn, erbyn y 2050au, rhagwelir y bydd llif naturiol afonydd yn gostwng o 20% - 60% ledled Cymru a'r her fydd llwyddo i ddygymod â chyfnodau amlach o sychder.  

 

 Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru eisoes yn ystyried newid hinsawdd drwy gynghori ar gynllunio gofodol, rheoli peryglon llifogydd a chynnal diogeled y cyflenwad dŵr cyhoeddus.  Bydd yn rhaid i'r sefydliad newydd adeiladu ar y gwaith hwn, yn ogystal ag ar y gwaith a ddatblygwyd gan y Cyngor Cefn Gwlad a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru i gryfhau gwytnwch cynefinoedd a rhywogaethau yn erbyn newidiadau yn yr hinsawdd ac yn y cylch dŵr.  Bydd yn rhaid i’r sefydliad newydd hefyd gyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gael gostyngiad blynyddol o 3% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o 2011-12 ymlaen, yn wir, dylai hyn fod yn esiampl ir sector cyhoeddus cyfan.   Bydd yn rhaid i’w weithgareddau rheoleiddio sicrhau y cyrhaeddir targedau gostwng carbon Cynllun Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd a Lefi Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Gostwng Carbon a hynny heb beryglu cynnyrch economaidd.   

 

3. Risgiau posibl a lliniaru risgiau

 

Rydyn ni’n cydnabod bod yna risgiau y bydd yn rhaid eu rheoli’n ofalus yn y cyfnod cyn, ac ar ôl, sefydlu'r corff newydd.  Fodd bynnag, rydyn ni’n hyderus y gellir eu lliniaru.

 

3.1          Dim digon o adnoddau i ddarparu’n effeithiol ar gyfer yr amgylchedd:

·          Rydyn ni’n cydnabod y gallai fod yna ostyngiad mewn perfformiad yn y cyfnod cyn ac ar ôl ad-drefnu.  Ein blaenoriaeth fydd sicrhau ein bod yn cynnal y gweithgareddau busnes sy’n hanfodol i amddiffyn yr amgylchedd, pobl a’r economi, er enghraifft, rhybuddion llifogydd, rheoli digwyddiadau, rheoleiddio'r rheng flaen a chyflwyno trwyddedau.  Rydyn ni’n cydnabod y bydd hyn yn her wrth i ragor o staff symud i weithio ar Gorff Amgylcheddol Sengl Llywodraeth Cymru ac ar y Fframwaith Amgylchedd Naturiol.  Rydyn ni o'r farn y gallwn ni reoli hyn drwy flaenoriaethau a chyfeirio ein hadnoddau at y gweithgareddau hanfodol.   Fodd bynnag, rydyn ni angen i Lywodraeth Cymru lyfnhau’r mewnbwn sydd ei angen i raglenni'r Corff Amgylcheddol Sengl a’r Fframwaith Amgylchedd Naturiol a chanolbwyntio ar weithgareddau hanfodol yn unig.   Byddwn yn monitro’n ofalus sut y byddwn ni'n darparu ein gweithgareddau hanfodol, drwy adborth cwsmeriaid, i sicrhau nad yw safonau gwasanaeth yn llithro.   Yn ôl y gofyn, byddwn yn ychwanegu adnoddau i sicrhau y cyrhaeddir safonau.  Yn olaf, ac os yn addas, byddwn yn gofyn am gefnogaeth ychwanegol gan y corff rhiant.

 

·          Ar hyn o bryd mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn derbyn nifer o wasanaethau gan eu cyrff rhiant.  Bydd yn rhaid i'r Corff Amgylcheddol Sengl ddangos yn glir pa wasanaethau y bydd eu hangen a nodi'r trefniadau gorau ar gyfer eu sicrhau yn y dyfodol.  Mae hyn yn hanfodol i sicrhau y bydd y Corff Amgylcheddol Sengl yn weithredol o’r diwrnod cyntaf un.

 

3.2 Canlyniadau anfwriadol dros y ffin

·          Rydyn ni’n cydnabod y gallai trefniadau rheoleiddio Cymru fod yn wahanol i rai Lloegr wrth i bolisïau a blaenoriaethau'r ddwy Lywodraeth ddal i symud ymhellach oddi wrth ei gilydd.  Mae yna risg y gallai hynny arwain at amodau anghystadleuol i fusnesau o ganlyniad i ychwanegu at y baich rheolaethol.  Gallai fod yna ansicrwydd hefyd i’r rhai yn byw ac yn gweithio yn ardaloedd y ffin.  Rydyn ni o'r farn y gellir lliniaru hyn drwy sefydlu perthynas waith gadarn gyda chyrff amgylcheddol y llywodraethau datganoledig ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr i sicrhau fod pob gwahaniaeth,  rheolaethol ac o ran polisi, yn cael eu harchwilio a bod eu heffeithiau’n cael eu deall a’u lliniaru.  

 

·         Bydd yn rhaid sefydlu trefniadau cyfreithiol clir yn y dalgylchoedd ac aberoedd sy'n croesi ffin Cymru a Lloegr er mwyn dal i sicrhau fod yr amgylchedd yn cael ei rheoli'n llwyddiannus.  Bydd yn rhaid cynnal y berthynas waith gref sydd eisoes wedi’i sefydlu gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr.

 

3.3 Cymryd penderfyniadau’n dryloyw

·         Mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft, wrth drwyddedu gweithgareddau ac asesu eu heffaith amgylcheddol, bydd gofyn i’r corff newydd ysgwyddo swyddogaethau rheolaethol ac ymgynghorol.   Bydd yn rhaid i’r corff newydd sefydlu’r lefelau priodol o lywodraethu a thryloywder yn ei ddulliau o benderfynu i dalu sylw i bryderon y gallai gwrthdaro godi rhwng y ddwy swyddogaeth.   Dyw hyn ddim yn her newydd.   Pan gafodd Asiantaeth yr Amgylchedd ei sefydlu, codwyd pryderon tebyg ynghylch effeithiau ansawdd dŵr a physgodfeydd wrth drwyddedu gosodiadau diwydiannol,   Cafodd hyn ei liniaru drwy drefniadau ymgynghori gyda swyddogaethau allweddol yn y busnes ac yn allanol, a thrwy sicrhau fod y dogfennau priodol ynghylch penderfynu ac asesu ar gael i'r cyhoedd.   Hefyd, bydd y ffaith y bydd yn dal gan y cyhoedd ran yn y broses benderfynu yn sicrhau y byddwn yn dal i dalu sylw i bryderon lleol yn ein swyddogaeth reolaethol.  Bydd yna ran yn dal i Lywodraeth Cymru i scrwtineiddio’r corff newydd o ran penderfyniadau rheolaethol ac o ran prosesau ar gyfer heriau cyfreithiol.

 

 

 

 

18 Ionawr 2012